Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

 

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Health, Social Care and Sport Committee

 

Ymchwiliad i iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu

Inquiry into Mental health in Policing and Police Custody

 

HSCS(5) MHP05

 

Ymateb gan Ysgrifennydd y Grwp Trawsbleidiol ar Blismona

Evidence from Secretary of Cross Party Group on Policing

 

 

Annwyl gyfeillion,

Ymhellach i'r e-bost isod mae'r ddolen hon yn mynd â chi i'r cofnodion a gyhoeddir yn Gymraeg

http://www.senedd.cynulliad.cymru/documents/s82854/Cofnodion%2013%20Tachwedd%202018.pdf

Diolch yn fawr

Cerith Thomas

Cynghorydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i Dîm Plismona Cymru Gyfan &

Ysgrifennydd y Grwp Trawsbleidiol ar Blismona


 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru – Y Grŵp Trawsbleidiol ar Blismona, Ystafell Bwyllgora 5, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd, Caerdydd,

Dydd Mawrth 13 Tachwedd 2018 am 18:40

 

1. Yn bresennol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

John Griffiths, AC – Cadeirydd

Becs Parker – Swyddog Cyfathrebu, Swyddfa John Griffiths AC

Y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu

Jeff Cuthbert – Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Chadeirydd y Grŵp Plismona Cymru Gyfan.

Dafydd Llywelyn – Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Alun Michael – Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru

Ann Griffith – Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru

Cerith Thomas – Ymgynghorydd y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i’r Grŵp Plismona Cymru Gyfan, ac Ysgrifennydd y Grŵp  

Sian Curley – Prif Weithredwr, tîm Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent

Carys Morgans – Prif Weithredwr, tîm Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Claire Bryant - Ymgynghorydd Polisi a Sicrwydd, tîm Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys

Prif Gwnstabliaid

Matt Jukes - Prif Gwnstabl, Heddlu De Cymru a Chadeirydd Grŵp Prif Swyddogion Cymru

Julian Williams - Prif Gwnstabl, Heddlu Gwent

Carl Foulkes – Prif Gwnstabl, Heddlu Gogledd Cymru

Richard Lewis – Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Heddlu Dyfed-Powys

Robert (Bob) Evans – Dirprwy Brif Gwnstabl, Grŵp Plismona Cymru Gyfan

Jonathan Drake – Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Heddlu De Cymru

Tony Brown – Prif Uwch-arolygydd, Uned Gyswllt yr Heddlu

Steve Thomas – Prif Arolygydd, Uned Gyswllt yr Heddlu

Gwahoddedigion

Steve Treharne – Cadeirydd, Ffederasiwn Heddlu De Cymru

Steve Chapman – Is-adran Diogelwch Cymunedol Llywodraeth Cymru, Cydgysylltydd Gwrthgaethwasiaeth

2. Croeso

Croesawodd Mr John Griffiths AC bawb i ail gyfarfod y grŵp. Gwahoddwyd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jonathan Drake, yr arweinydd plismona cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl, i roi cyflwyniad ar "iechyd meddwl a'r galw ar blismona yng Nghymru". 

3. Cyflwyniad ar ‘Iechyd Meddwl a'r Galw ar Blismona yng Nghymru’ gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jonathan Drake – Arweinydd Plismona Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl

3.1 Tynnwyd sylw at y datblygiadau allweddol sy’n effeithio ar wasanaeth yr heddlu ac iechyd meddwl yng Nghymru, sef:

·         Y Concordat Gofal Mewn Argyfwng Iechyd Meddwl;

·         Llywodraethu; a

·         Deall y galw.

3.2 Roedd yn briodol dibynnu ar nifer y bobl a gedwir o dan adran 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl i gael darlun cyflawn o natur y galw ar wasanaeth yr heddlu. Er mwyn deall y sefyllfa yn well, cynhaliwyd y digwyddiadau canlynol:

·         Ymgyrch ‘Liberty’

·         Diwrnod Mesur Galw Iechyd Meddwl Heddlu De Cymru – Hydref 2017

·         Diwrnod Mesur Galw Iechyd Meddwl Cymru Gyfan – Ebrill 2018

3.3 Roedd Diwrnod Mesur Galw Iechyd Meddwl Cymru Gyfan yn mesur nifer yr achosion iechyd meddwl fesul ardal heddlu, ar draws y pedwar ardal, ac mae’r canlyniadau wedi’u nodi yn y tablau canlynol.


 

 

Achosion iechyd meddwl fesul ardal  

Ardal Heddlu

Cyfanswm yr achosion

Achosion iechyd meddwl

Dyfed-Powys

342

10 (3.42 y cant)

Gwent

348

33 (9.48 y cant)

Gogledd Cymru

513

45 (8.77 y cant)

De Cymru

908

112 (12.33 y cant)

Cyfanswm

2,111

200 (9.47 y cant)

 

Achosion yn ymwneud ag unigolion a oedd yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl

Ardal Heddlu

Cyfanswm yr achosion lle'r oedd yr unigolyn eisoes yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl

Canran yr holl achosion iechyd meddwl

Dyfed-Powys

6

60.0 y cant

Gwent

19

57.6 y cant

Gogledd Cymru

27

60.0 y cant

De Cymru

56

50.0 y cant

Cyfanswm

108

54.0 y cant

 

3.4 Ar gyfartaledd, treulir 3½ awr o amser yr heddlu yn delio â phob achos, gyda chyfanswm o 802:52 awr ar draws Cymru a chost lawn o £16,330 y diwrnod. Mae hyn yn cyfateb i gost o bron i £6 miliwn y flwyddyn ar gyfer delio ag achosion yn ymwneud ag iechyd meddwl

3.5 Roedd y canlyniadau a’r casgliadau a ddaeth o’r Diwrnod Iechyd Meddwl Cymru Gyfan yn amhrisiadwy am eu bod yn rhoi gwell dealltwriaeth o lefel y galw a'r gost i blismona yng Nghymru.

3.6 Nododd Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi y problemau canlynol o ganlyniad i’w harolygiad nhw o’r maes hwn:

·         Cafodd 80 y cant o’r cleifion a gadwyd o dan adran 136 eu rhyddhau yn dilyn asesiad heb angen gofal brys yn yr ysbyty. 

·         Cydnabyddiaeth fod gan 85 y cant o gleifion sy'n cael eu cadw o dan adran 135/136 gyflyrau iechyd meddwl (Betsi Cadwaladr).

·         Diffyg argaeledd ambiwlans yn golygu bod cleifion yn cael eu cludo i man diogel ym mron pob achos adran 136.

·         Amseroedd aros hir ar gyfer asesiadau ynghyd â chapasiti sydd ond yn caniatáu cynnal un asesiad ar y tro.

·         Argaeledd gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol, yn enwedig y tu allan i oriau gwaith arferol.

·         Swyddogion yn gorfod aros gyda chleifion yn yr adran damweiniau ac achosion brys fel eu bod yn gallu derbyn triniaeth ar gyfer cyflyrau corfforol cyn cael asesiadau iechyd meddwl.

3.7 Nodwyd nifer o ffyrdd o fodloni’r galw, sef: 

·         System brysbennu lle lleolir nyrsys seiciatrig cymunedol mewn ystafelloedd rheoli. Mae’r trefniant hwn eisoes yn ei le yng Ngwent ac mae wedi arwain at leihad o 40 y cant yn nifer y galwadau.

·         Rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau. Nodwyd bod Canolfannau Diogelu Amlasiantaeth (MASH) yn enghreifftiau da o hynny’n digwydd yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Chwm Taf.

·         Cydweithio gyda’r gwasanaethau tân ac ambiwlans o ran rhannu gwybodaeth.

·         Ffurflen casglu data amlasiantaethol.

·         Cyd-ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

·         Dysgu o'r arfer gorau ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.

·         ran gwella iechyd meddwl, byddai'r Rhaglen Gweithredu'n Gynnar Gyda'n Gilydd yn effeithiol yn y dyfodol fel rhan o'r dull gweithredu Profiadau Niweidiol Mewn Plentyndod (ACEs).

·         Sicrhau bod y cynlluniau cyflenwi lefel uchel o gwmpas y concordat iechyd meddwl yn gyson ledled Cymru o ran cyllid priodol a mapio galw. Dylai hyn arwain at ryddhau'r galw.

3.8 Eglurwyd sail a manteision system brysbennu iechyd meddwl fel a ganlyn:

·         Roedd yn golygu trosglwyddo ymarferydd iechyd meddwl, nyrs seiciatrig gymunedol, o fyrddau iechyd lleol i weithio yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus.

·         Peilot i ddefnyddio canllawiau’r GIG ar gyfer trin a chyfeirio.

·         Bydd y nyrs seiciatrig gymunedol yn gallu adnabod achosion lle nad oes angen gwasanaethu’r heddlu ar frys nac ymweliad i’r ysbyty neu’r adran damweiniau ac achosion brys wedi hynny.

·         Amcangyfrifir y byddai nyrs seiciatrig gymunedol yn gallu rhoi cyngor ar hunanofal mewn 40 y cant o achosion ac isgyfeirio 40 y cant o alwadau o ganlyniad.

·         Ryddhau 4,204 o oriau'r heddlu yn ôl i'r rheng flaen yng Nghymru bob blwyddyn, gyda llai o gleifion yn mynd i’r adran damweiniau ac achosion brys.

3.9 Wrth ddod â’r cyflwyniad i ben, dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Drake fod angen model cyflawni ar gyfer Cymru gyfan yn seiliedig ar beth sydd yn wir yn gweithio er mwyn osgoi cylch dieflig o ran afiechyd meddwl

4. Sesiwn agored:

Cododd y pwyntiau trafod canlynol yn ystod y sesiwn agored.

4.1 Gwnaeth y Comisiynydd Alun Michael y pwyntiau canlynol:

·         Cytunodd gyda’r hyn a ddywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jonathan Drake am effaith y rhaglen ACEs a'r effaith ar bobl fregus.

·         Roedd pryder ar y cychwyn fod hwn yn cael ei weld fel problem plismona h.y. cadw pobl yn y ddalfa pan fetho popeth arall.

·         Sefydlwyd y Grŵp Concordat Gofal Mewn Argyfwng fel grŵp gorchwyl a gorffen am 18 mis yn y lle cyntaf ond roedd wedi parhau i weithredu ar gais ei aelodau.

·         Cydnabu’r cynnydd da a wnaed ond nododd fod angen gwneud mwy er mwyn sicrhau mwy o gysondeb ledled Cymru.

·         Roedd problem o ran diffinio afiechyd meddwl. Teimlai rheolwyr iechyd fod y term yn berthnasol i bobl y mae angen triniaeth seiciatrig arnynt. Roedd safbwynt yr heddlu yn un ehangach, yn gysylltiedig â llesiant unigolyn ac yn agosach at bolisi Llywodraeth Cymru.

·         Roedd cyswllt â'r Rhaglen Gweithredu'n Gynnar Gyda'n Gilydd.

·         Roedd byrddau iechyd hefyd yn profi problemau tebyg o ran adrannau damweiniau ac achosion brys yn nodi mannau diogel.

·         Roedd diogelu unigolion ac ymyrraeth gynnar yn allweddol i lwyddiant yn y maes hwn.

·         Roedd MASH Caerdydd yn gwneud cyfraniad sylweddol yn Ne Cymru ac roedd angen cynyddu lefel y gwasanaethau teuluol.

 

4.2 Nododd y cadeirydd nad oedd dadansoddiad yn edrych ar natur y digwyddiadau a'r amser a dreuliwyd arnynt. Dywedodd ACC Drake y byddai'n anodd dod i gasgliadau ynglŷn â hyn oherwydd ffactorau amrywiol megis ffyrdd gwahanol o drin digwyddiadau a'u lleoliad daearyddol.

4.3 Gofynnodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn pa fesurau y gellid eu cyflwyno i sicrhau cysondeb o ran darparu gwasanaethau ledled Cymru. Atebodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Drake ei fod yn teimlo mai buddsoddiad o £2.5 miliwn yn y system brysbennu byddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf arwyddocaol yn syth. Roedd heddlu Gwent eisoes wedi buddsoddi £400,000 yn y system brysbennu a byddai De Cymru yn buddsoddi £1 miliwn. Cadarnhaodd y Prif Gwnstabl Julian Williams fod y system wedi gweithio yng Ngwent ac wedi lleihau'r galw yn sylweddol, gan olygu y gellid adleoli swyddogion i fannau eraill.

 

4.4 Tynnodd Jeff Cuthbert sylw at bwysigrwydd darparu gwasanaeth ar y cyd gyda'r GIG, yng nghyd-destun y ffaith nad yw’r gwasanaeth plismona wedi’i ddatganoli i Gymru. Roedd dull o weithio gydag adrannau datganoledig, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, eisoes wedi’i fabwysiadu, a byddai ceisiadau ar y cyd am gyllid yn fanteisiol. Cynlluniwyd cyfarfod cyntaf Bwrdd Plismona Cymru ar gyfer 19 Tachwedd 2018, pan fyddai'n briodol trafod y mater hwn a'i godi gydag ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AC. Mae’n bwysig sefydlu egwyddorion cyllido er mwyn rhannu adnoddau ariannol a sicrhau nad yr heddlu fyddai’n ariannu popeth. Dylai’r egwyddor o gael un gwasanaeth cyhoeddus ennill y dydd, ni waeth a ydynt wedi’u datganoli neu heb eu datganoli.

4.5 Cyfeiriodd y Prif Gwnstabl Matt Jukes at fwriad y Trysorlys i ryddhau £2.5 biliwn ar gyfer iechyd meddwl yn Lloegr a bod angen i’r ymrwymiad hwn gyrraedd Cymru drwy arian canlyniadol Barnett. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith nad yr heddlu yw’r sefydliad mwyaf priodol i ymdrin â materion iechyd meddwl ac, mewn rhai achosion, roedd eu presenoldeb yn gwneud pethau'n waeth. Mae angen deall yn iawn beth rydym am i'r heddlu ei wneud, o ystyried eu bod yn gyfrifol am y gwasanaeth ar benwythnosau ac ar ôl 4pm yn ystod yr wythnos. Mae angen trafodaethau difrifol gyda Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol ar drefniadau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

4.6 Ategodd Steve Treharne, Cadeirydd Ffederasiwn Heddlu De Cymru, sylwadau blaenorol gan ddweud bod delio â digwyddiadau iechyd meddwl yn rhoi pwysau sylweddol ar amser yr heddlu. Roedd swyddogion yn treulio hyd at 7 awr yn delio ag achosion o'r fath ac roedd hyn yn golygu na ellid eu hanfon i weithio mewn mannau eraill. Cytunodd nad yr heddlu oedd yr asiantaeth fwyaf priodol i ddelio â phobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl.

4.7 Cydnabu'r Cadeirydd yr effaith ar bolisi'r Cynulliad Cenedlaethol a chytunodd dosbarthu nodyn o'r materion a godwyd yn y cyfarfod i holl Aelodau'r Cynulliad.  

4.8 Cytunwyd i wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AC, i gyfarfod nesaf y grŵp trawsbleidiol er mwyn clywed ei farn ar gydweithio. Cadarnhaodd Jeff Cuthbert y byddai cyfle hefyd i godi'r mater ym Mwrdd Plismona Cymru ar 19 Tachwedd 2018.

4.9 Cytunwyd ei bod yn bwysig tynnu sylw at y ffaith bod angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru i helpu i gyflymu'r cynllun cyflawni o'r cyfarfodydd concordat ac i gyflymu'r broses ar draws Cymru.

4.10 Teimlai'r Comisiynydd Dafydd Llywelyn y dylid ystyried a ellid dyrannu'r £2.5 miliwn sydd ei angen ar gyfer system brysbennu o'r arian ychwanegol sy'n dod i Gymru o ganlyniad i fformiwla Barnett.

4.11 Gwnaeth y Dirprwy Gomisiynydd Ann Griffiths bwynt ar ran ei Chomisiynydd, Arfon Jones.  Dywedodd y gellid ystyried a ddylid gweld polisi cyffuriau fel mater iechyd (ac felly wedi’i ddatganoli) yn hytrach na mater a gedwir yn ôl i’r Swyddfa Gartref. Dylai hwn fod yn bwnc trafod i’r grŵp.

4.12 Gan gydnabod y cyfraniadau a wnaed i’r ddadl, cododd John Griffiths AC y pwyntiau a ganlyn:

·         Mae iechyd meddwl yn fater anferth ac mae atal ac ymyrryd gynnar yn bwysig.

·         Mae mwy o arian wedi’i ryddhau ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru ac mae hi'n amserol codi'r mater yn awr. Pwysleisiodd bwysigrwydd peidio â chymryd yn ganiataol y byddai cyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu'n awtomatig i wasanaethau iechyd meddwl, gan y byddai sefydliadau eraill yn gwneud ceisiadau tebyg am gyllid ychwanegol mewn mannau eraill.

·         Cydnabu’r angen i gyflymu'r newidiadau fel y gellid gwneud arbedion effeithlonrwydd. Byddai hyn o fudd i lefelau gofal hefyd.

·         Mae angen rhoi ystyriaeth i iechyd meddwl yng nghyd-destun pynciau eraill a ystyriwyd gan y grŵp e.e. digartrefedd, cysgu ar y stryd, camddefnyddio sylweddau ac ymyrraeth gynnar.

 

5. Pwnc i'w drafod yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Blismona 

Cytunwyd mai gweithio ar y cyd gan ganolbwyntio ar ddigartrefedd, cysgu ar y stryd, camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl byddai’r testun trafodaeth yng nghyfarfod nesaf y Grŵp.

6. Camau gweithredu

6.1 Bydd John Griffiths AC yn dosbarthu nodyn o'r materion a godwyd yn y cyfarfod i holl Aelodau'r Cynulliad.

6.2 Cam gweithredu: Bydd John Griffiths AC yn gwahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AC, i gyfarfod nesaf y Grŵp.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 19.40